Hen Destament

Testament Newydd

Salm 16:1-8 beibl.net 2015 (BNET)

1. Amddiffyn fi, O Dduw;dw i'n troi atat ti am loches.

2. Dywedais wrth yr ARGLWYDD,“Ti ydy fy Meistr i;mae fy lles i yn dibynnu arnat ti.”

3. Y bobl dduwiol yn y wlad ydy fy arwyr,dw i wrth fy modd gyda nhw.

4. Ond bydd y rhai sy'n dilyn duwiau eraillyn cael llwyth o drafferthion!Dw i eisiau dim i'w wneud â'u hoffrymau o waed.Dw i ddim am eu henwi nhw hyd yn oed!

5. Ti, ARGLWYDD, ydy'r un dw i eisiau.Mae fy nyfodol i yn dy law di.

6. Rwyt ti wedi rhoi tir da i mi;mae gen i etifeddiaeth hyfryd.

7. Bendithiaf yr ARGLWYDD am fy arwain i;ac am siarad gyda mi yn y nos.

8. Dw i mor ymwybodol fod yr ARGLWYDD gyda mi.Mae'n sefyll wrth fy ochr, a fydd dim byd yn fy ysgwyd.

Darllenwch bennod gyflawn Salm 16