Hen Destament

Testament Newydd

Salm 145:8-16 beibl.net 2015 (BNET)

8. Mae'r ARGLWYDD mor garedig a thrugarog;mor amyneddgar ac anhygoel o hael!

9. Mae'r ARGLWYDD yn dda i bawb;mae'n dangos tosturi at bopeth mae wedi ei wneud.

10. Mae'r cwbl rwyt ti wedi ei greu yn dy foli di, O ARGLWYDD!Ac mae'r rhai sydd wedi profi dy gariad ffyddlon yn dy fendithio!

11. Byddan nhw'n dweud am ysblander dy deyrnasiad,ac yn siarad am dy nerth;

12. er mwyn i'r ddynoliaeth wybod am y pethau mawr rwyt ti'n eu gwneud,ac am ysblander dy deyrnasiad.

13. Mae dy deyrnasiad yn para drwy'r oesoedd,ac mae dy awdurdod yn para ar hyd y cenedlaethau!Mae'r ARGLWYDD yn cadw ei air;ac yn ffyddlon ym mhopeth mae'n ei wneud.

14. Mae'r ARGLWYDD yn cynnal pawb sy'n syrthio,ac yn gwneud i bawb sydd wedi eu plygu drosodd sefyll yn syth.

15. Mae popeth byw yn edrych yn ddisgwylgar arnat ti,a ti'n rhoi bwyd iddyn nhw pan mae ei angen.

16. Mae dy law di yn agored; rwyt ti mor hael!Ti'n rhoi'r bwyd sydd ei angen i bob creadur byw.

Darllenwch bennod gyflawn Salm 145