Hen Destament

Testament Newydd

Salm 145:1-8 beibl.net 2015 (BNET)

1. Dw i'n mynd i dy ganmol di, fy Nuw a'm brenin,a bendithio dy enw di am byth bythoedd!

2. Dw i eisiau dy ganmol di bob dydda dy foli di am byth bythoedd!

3. Mae'r ARGLWYDD yn fawr, ac yn haeddu ei foli!Mae ei fawredd tu hwnt i'n deall ni.

4. Bydd un genhedlaeth yn dweud wrth y nesa am dy weithredoedd,ac yn canmol y pethau mawr rwyt ti'n eu gwneud.

5. Byddan nhw'n dweud mor rhyfeddol ydy dy ysblander a dy fawredd,a bydda i'n sôn am y pethau anhygoel rwyt ti'n eu gwneud.

6. Bydd pobl yn sôn am y pethau syfrdanol rwyt ti'n eu gwneud,a bydda i'n adrodd hanes dy weithredoedd mawrion.

7. Byddan nhw'n cyhoeddi dy ddaioni diddiwedd di,ac yn canu'n llawen am dy gyfiawnder.

8. Mae'r ARGLWYDD mor garedig a thrugarog;mor amyneddgar ac anhygoel o hael!

Darllenwch bennod gyflawn Salm 145