3. O ARGLWYDD, beth ydy pobl i ti boeni amdanyn nhw?Pam ddylet ti feddwl ddwywaith am berson dynol?
4. Mae pobl fel tarth.Mae bywyd fel cysgod yn pasio heibio.
5. O ARGLWYDD, gwthia'r awyr o'r ffordd, a tyrd i lawr!Cyffwrdd y mynyddoedd, a gwna iddyn nhw fygu!
6. Gwna i fellt fflachio a chwala'r gelyn!Anfon dy saethau i lawr a'u gyrru nhw ar ffo!
7. Estyn dy law i lawr o'r entrychion.Achub fi! Tynna fi allan o'r dŵr dwfn!Achub fi o afael estroniaid
8. sy'n dweud celwyddauac sy'n torri pob addewid.
9. O Dduw, dw i am ganu cân newydd i ti,i gyfeiliant offeryn dectant.
10. Canu i ti sydd wedi rhoi buddugoliaeth i frenhinoedd,ac achub dy was Dafydd rhag y cleddyf marwol.