Hen Destament

Testament Newydd

Salm 144:1-8 beibl.net 2015 (BNET)

1. Bendith ar yr ARGLWYDD, fy nghraig i!Mae e wedi dysgu fy nwylo i ymladd,a'm bysedd i frwydro.

2. Mae'r Un ffyddlon fel castell o'm cwmpas;fy hafan ddiogel a'r un sy'n fy achub i.Fy nharian, a'r un dw i'n cysgodi ynddo.Mae e'n gwneud i wledydd eraill ymostwng i mi.

3. O ARGLWYDD, beth ydy pobl i ti boeni amdanyn nhw?Pam ddylet ti feddwl ddwywaith am berson dynol?

4. Mae pobl fel tarth.Mae bywyd fel cysgod yn pasio heibio.

5. O ARGLWYDD, gwthia'r awyr o'r ffordd, a tyrd i lawr!Cyffwrdd y mynyddoedd, a gwna iddyn nhw fygu!

6. Gwna i fellt fflachio a chwala'r gelyn!Anfon dy saethau i lawr a'u gyrru nhw ar ffo!

7. Estyn dy law i lawr o'r entrychion.Achub fi! Tynna fi allan o'r dŵr dwfn!Achub fi o afael estroniaid

8. sy'n dweud celwyddauac sy'n torri pob addewid.

Darllenwch bennod gyflawn Salm 144