Hen Destament

Testament Newydd

Salm 141:6-10 beibl.net 2015 (BNET)

6. Pan fyddan nhw'n syrthio i ddwylo'r Graig, eu Barnwr,byddan nhw'n gwerthfawrogi beth ddywedais i.

7. Fel petai rhywun yn aredig ac yn troi y pridd,mae ein hesgyrn wedi eu gwasgaru wrth geg Annwn.

8. Arnat ti dw i'n edrych, O ARGLWYDD, fy Meistr;Dw i'n dod atat am loches, paid a'm gadael mewn perygl!

9. Cadw fi i ffwrdd o'r trapiau maen nhw wedi eu gosod,ac oddi wrth faglau y rhai drwg.

10. Gad iddyn nhw syrthio i'w rhwydi eu hunain,tra dw i'n llwyddo i ddianc.

Darllenwch bennod gyflawn Salm 141