1. ARGLWYDD, dw i'n galw arnat: Brysia! Helpa fi!Gwranda arna i'n galw arnat ti.
2. Derbyn fy ngweddi fel offrwm o arogldarth,a'm dwylo sydd wedi eu codi fel aberth yr hwyr.
3. O ARGLWYDD, gwarchod fy nghega gwylia ddrws fy ngwefusau.
4. Paid gadael i mi feddwl dweud dim byd drwg,na gwneud dim gyda dynion sydd felly!Cadw fi rhag bwyta eu danteithion.
5. Boed i rywun sy'n byw'n gywir ddod i'm taro i,a'm ceryddu mewn cariad!Dyna'r olew gorau – boed i'm pen beidio ei wrthod.Dw i'n gweddïo o hyd ac o hyd yn erbyn eu drygioni.