Hen Destament

Testament Newydd

Salm 14:1-6 beibl.net 2015 (BNET)

1. Dim ond ffŵl sy'n meddwl wrtho'i hun,“Dydy Duw ddim yn bodoli.”Mae pobl yn gwneud pob math o bethau ffiaidd;does neb yn gwneud daioni.

2. Mae'r ARGLWYDD yn edrych i lawro'r nefoedd ar y ddynoliaethi weld os oes unrhyw un call;unrhyw un sy'n ceisio Duw.

3. Ond mae pawb wedi troi cefn arno,ac yn gwbl lygredig.Does neb yn gwneud daioni –dim un!

4. Ydyn nhw wir mor dwp – yr holl rhai drwgsy'n llarpio fy mhobl fel taen nhw'n llowcio bwyd,a byth yn galw ar yr ARGLWYDD?

5. Byddan nhw'n dychryn am eu bywydau,am fod Duw yn gofalu am y rhai cyfiawn.

6. Dych chi'n ceisio drysu hyder yr anghenus,ond mae'r ARGLWYDD yn ei gadw'n saff.

Darllenwch bennod gyflawn Salm 14