4. Fe ydy'r unig un sydd wedi gwneud gwyrthiau rhyfeddol.Mae ei haelioni yn ddiddiwedd!
5. Fe sydd wedi creu y nefoedd drwy ei allu.Mae ei haelioni yn ddiddiwedd!
6. Fe sydd wedi lledu'r ddaear dros y dyfroedd.Mae ei haelioni yn ddiddiwedd!
7. Fe sydd wedi gwneud y goleuadau mawrion.Mae ei haelioni yn ddiddiwedd!
8. Yr haul i reoli'r dydd.Mae ei haelioni yn ddiddiwedd!
9. a'r lleuad a'r sêr i reoli'r nos.Mae ei haelioni yn ddiddiwedd!
10. Fe wnaeth daro plant hynaf yr Aifft,Mae ei haelioni yn ddiddiwedd!
11. a dod ag Israel allan o'u canol nhw,Mae ei haelioni yn ddiddiwedd!
12. gyda nerth a chryfder rhyfeddol.Mae ei haelioni yn ddiddiwedd!
13. Fe wnaeth hollti'r Môr Coch,Mae ei haelioni yn ddiddiwedd!