Hen Destament

Testament Newydd

Salm 136:13-26 beibl.net 2015 (BNET)

13. Fe wnaeth hollti'r Môr Coch,Mae ei haelioni yn ddiddiwedd!

14. a gadael i Israel fynd trwy ei ganol,Mae ei haelioni yn ddiddiwedd!

15. Fe wnaeth daflu'r Pharo a'i fyddin i'r Môr Coch,Mae ei haelioni yn ddiddiwedd!

16. ac arwain ei bobl drwy'r anialwch.Mae ei haelioni yn ddiddiwedd!

17. Fe wnaeth daro brenhinoedd cryfion i lawr,Mae ei haelioni yn ddiddiwedd!

18. a lladd brenhinoedd enwog –Mae ei haelioni yn ddiddiwedd!

19. Sihon, brenin yr Amoriaid,Mae ei haelioni yn ddiddiwedd!

20. ac Og, brenin Bashan.Mae ei haelioni yn ddiddiwedd!

21. Rhoddodd eu tir yn etifeddiaeth –Mae ei haelioni yn ddiddiwedd!

22. yn etifeddiaeth i bobl Israel, sy'n ei wasanaethu.Mae ei haelioni yn ddiddiwedd!

23. Cofiodd amdanon ni pan oedden ni'n isel,Mae ei haelioni yn ddiddiwedd!

24. a'n hachub ni o afael ein gelynion,Mae ei haelioni yn ddiddiwedd!

25. Fe sy'n rhoi bwyd i bob creadur byw,Mae ei haelioni yn ddiddiwedd!

26. Rhowch ddiolch i'r Duw sy'n y nefoedd!Mae ei haelioni yn ddiddiwedd!

Darllenwch bennod gyflawn Salm 136