1. Diolchwch i'r ARGLWYDD!Mae e mor dda aton ni!Mae ei haelioni yn ddiddiwedd!
2. Rhowch ddiolch i'r Duw sy'n uwch na'r duwiau i gyd!Mae ei haelioni yn ddiddiwedd!
3. Rhowch ddiolch i Arglwydd yr Arglwyddi!Mae ei haelioni yn ddiddiwedd!
4. Fe ydy'r unig un sydd wedi gwneud gwyrthiau rhyfeddol.Mae ei haelioni yn ddiddiwedd!
5. Fe sydd wedi creu y nefoedd drwy ei allu.Mae ei haelioni yn ddiddiwedd!
6. Fe sydd wedi lledu'r ddaear dros y dyfroedd.Mae ei haelioni yn ddiddiwedd!
7. Fe sydd wedi gwneud y goleuadau mawrion.Mae ei haelioni yn ddiddiwedd!