Hen Destament

Testament Newydd

Salm 13:1-5 beibl.net 2015 (BNET)

1. Am faint mwy, ARGLWYDD?Wyt ti'n mynd i'm diystyru i am byth?Am faint mwy rwyt ti'n mynd i droi cefn arna i?

2. Am faint mwy mae'n rhaid i mi boeni f'enaid,a dal i ddioddef fel yma bob dydd?Am faint mwy mae'r gelyn i gael y llaw uchaf?

3. Edrych arna i!Ateb fi, O ARGLWYDD, fy Nuw!Adfywia fi,rhag i mi suddo i gwsg marwolaeth;

4. rhag i'r gelyn ddweud, “Dw i wedi ennill!”ac i'r rhai sy'n fy nghasáu ddathlu wrth i mi syrthio.

5. Ond na, dw i'n trystio dy fod ti'n ffyddlon!Bydda i'n gorfoleddu am dy fod wedi f'achub i.Bydda i'n canu mawl i ti, ARGLWYDD,am achub fy ngham.

Darllenwch bennod gyflawn Salm 13