Hen Destament

Testament Newydd

Salm 120:1-7 beibl.net 2015 (BNET)

1. Yn fy argyfwng dyma fi'n galw ar yr ARGLWYDDac atebodd fi!

2. “O ARGLWYDD, achub fi rhag gwefusau celwyddog,a thafodau twyllodrus!”

3. Dyma gei di ganddo– ie, dyma fydd dy gosb –ti, dafod twyllodrus:

4. Saethau miniog y milwyrwedi eu llunio ar dân golosg!

5. Dw i wedi bod mor ddigalon,yn gorfod byw dros dro yn Meshech,ac aros yng nghanol pebyll Cedar.

6. Dw i wedi cael llond bol ar fywyng nghanol pobl sy'n casáu heddwch.

7. Dw i'n siarad am heddwch,ac maen nhw eisiau rhyfela!

Darllenwch bennod gyflawn Salm 120