Hen Destament

Testament Newydd

Salm 116:5-16 beibl.net 2015 (BNET)

5. Mae'r ARGLWYDD mor hael a charedig;ydy, mae ein Duw ni mor drugarog.

6. Mae'r ARGLWYDD yn amddiffyn pobl gyffredin;achubodd fi pan oeddwn i'n teimlo mor isel.

7. Ond bellach dw i'n gallu ymlacio eto!Mae'r ARGLWYDD wedi achub fy ngham!

8. Wyt, rwyt ti wedi achub fy mywyd i,cymryd y dagrau i ffwrdd,a'm cadw i rhag baglu.

9. Dw i'n mynd i fyw'n ffyddlon i'r ARGLWYDDar dir y byw.

10. Roeddwn i'n credu ynddo pan ddywedais,“Dw i'n diodde yn ofnadwy,”

11. ond yna dweud mewn panig,“Alla i ddim trystio unrhyw un.”

12. Sut alla i dalu nôl i'r ARGLWYDDam fod mor dda tuag ata i?

13. Dyma offrwm o win i ddiolch iddo am fy achub,a dw i am alw ar enw'r ARGLWYDD.

14. Dw i am gadw fy addewidion i'r ARGLWYDDo flaen ei bobl.

15. Mae bywyd pob un o'i bobl ffyddlonyn werthfawr yng ngolwg yr ARGLWYDD.

16. Plîs ARGLWYDD,dw i wir yn un o dy weisionac yn blentyn i dy forwyn.Rwyt ti wedi datod y clymau oedd yn fy rhwymo i.

Darllenwch bennod gyflawn Salm 116