Hen Destament

Testament Newydd

Salm 116:13-19 beibl.net 2015 (BNET)

13. Dyma offrwm o win i ddiolch iddo am fy achub,a dw i am alw ar enw'r ARGLWYDD.

14. Dw i am gadw fy addewidion i'r ARGLWYDDo flaen ei bobl.

15. Mae bywyd pob un o'i bobl ffyddlonyn werthfawr yng ngolwg yr ARGLWYDD.

16. Plîs ARGLWYDD,dw i wir yn un o dy weisionac yn blentyn i dy forwyn.Rwyt ti wedi datod y clymau oedd yn fy rhwymo i.

17. Dw i'n cyflwyno offrwm i ddiolch i tiac yn galw ar enw yr ARGLWYDD.

18. Dw i am gadw fy addewidion i'r ARGLWYDDo flaen y bobl sy'n ei addoli

19. yn ei deml yn Jerwsalem.Haleliwia!

Darllenwch bennod gyflawn Salm 116