Hen Destament

Testament Newydd

Salm 111:3-10 beibl.net 2015 (BNET)

3. Mae'r cwbl yn dangos ei ysblander a'i urddas,a'i fod e bob amser yn ffyddlon.

4. Mae pawb yn sôn am y pethau rhyfeddol mae'n eu gwneud!Mae'r ARGLWYDD mor garedig a thrugarog!

5. Mae e'n rhoi bwyd i'w rai ffyddlon;mae bob amser yn cofio'r ymrwymiad wnaeth e.

6. Dwedodd wrth ei bobl y byddai'n gwneud pethau mawr,a rhoi tir cenhedloedd eraill iddyn nhw.

7. Mae e wedi bod yn ffyddlon ac yn gyfiawn.Mae'r pethau mae'n eu dysgu yn gwbl ddibynadwy,

8. ac yn sefyll am byth.Maen nhw'n ffyddlon ac yn deg.

9. Mae wedi gollwng ei bobl yn rhydd,ac wedi sicrhau fod ei ymrwymiad yn sefyll bob amser.Mae ei enw'n sanctaidd ac i gael ei barchu.

10. Parchu'r ARGLWYDD ydy'r cam cyntaf i fod yn ddoeth.Mae pawb sy'n gwneud hynny yn gwneud y peth call.Mae e'n haeddu ei foli am byth!

Darllenwch bennod gyflawn Salm 111