Hen Destament

Testament Newydd

Salm 108:1-13 beibl.net 2015 (BNET)

1. Dw i'n gwbl benderfynol, O Dduw.Dw i am ymroi yn llwyr i ganu mawl i ti!

2. Deffro, nabl a thelyn!Dw i am ddeffro'r wawr gyda'm cân!

3. Dw i'n mynd i ddiolch i ti, O ARGLWYDD, o flaen pawb!Dw i'n mynd i ganu mawl i ti o flaen pobl o bob cenedl!

4. Mae dy gariad di'n uwch na'r nefoedd,a dy ffyddlondeb di'n uwch na'r cymylau!

5. Dangos dy hun yn uwch na'r nefoedd, O Dduw,i dy ysblander gael ei weld drwy'r byd i gyd!

6. Defnyddia dy gryfder o'n plaid, ac ateb nier mwyn i dy rai annwyl gael eu hachub.

7. Mae Duw wedi addo yn ei gysegr:“Dw i'n mynd i fwynhau rhannu Sichem,a mesur dyffryn Swccoth.

8. Fi sydd piau Gileada Manasse hefyd.Effraim ydy fy helmed i,a Jwda ydy'r deyrnwialen.

9. Ond bydd Moab fel powlen ymolchi.Byddaf yn taflu fy esgid at Edom,ac yn gorfoleddu ar ôl gorchfygu Philistia!”

10. Pwy sy'n gallu mynd â fi i'r ddinas ddiogel?Pwy sy'n gallu fy arwain i Edom?

11. Onid ti, O Dduw?Ond rwyt wedi'n gwrthod ni!Wyt ti ddim am fynd allan gyda'n byddin, O Dduw?

12. Plîs, helpa ni i wynebu'r gelyn,achos dydy help dynol yn dda i ddim.

13. Gyda Duw gallwn wneud pethau mawrion –bydd e'n sathru ein gelynion dan draed!

Darllenwch bennod gyflawn Salm 108