8. Mae'n cuddio wrth y pentrefi, yn barod i ymosod;mae'n neidio o'i guddfan a lladd y dieuog –unrhyw un sy'n ddigon anffodus.
9. Mae'n disgwyl yn ei guddfan fel llew yn ei ffau,yn barod i ddal y truan a'i gam-drin;ac mae'n ei ddal yn ei rwyd.
10. Mae'n plygu i lawr, yn swatio,ac mae rhywun anlwcus yn syrthio i'w grafangau.
11. Mae'n dweud wrtho'i hun, “Dydy Duw ddim yn poeni!Dydy e'n cymryd dim sylw.Dydy e byth yn edrych!”
12. Cod, O ARGLWYDD!Cod dy law i'w daro, O Dduw!Paid anghofio'r rhai sy'n cael eu gorthrymu.
13. Pam ddylai dyn drwg gael dilorni Duwa meddwl dy fod ti'n galw neb i gyfri?
14. Ti'n gweld y cwbl –ti'n sylwi ar y poen a'r dioddefaint.A byddi'n talu'n ôl!Mae'r un oedd yn anlwcus yn dy drystio di,am mai ti sy'n helpu plant amddifad.
15. Torra rym y dyn drwg!Galw fe i gyfrif am y drygioniroedd e'n meddwl na fyddet ti'n ei weld.
16. Mae'r ARGLWYDD yn frenin am bytha bydd y cenhedloedd yn diflannu o'r tir!
17. Ti'n gwrando ar lais y rhai sy'n cael eu gorthrymuyn crefu arnat, O ARGLWYDD.Byddan nhw'n teimlo'n saffam dy fod ti'n gwrando arnyn nhw.
18. Unwaith eto byddi'n rhoi cyfiawnderi'r amddifad a'r rhai sy'n cael eu sathru;byddi'n stopio dynion meidrol rhag eu gormesu.