4. Mae'r un drwg mor falch, yn swancioac yn dweud wrth ddirmygu'r ARGLWYDD:“Dydy e ddim yn galw neb i gyfri;Dydy Duw ddim yn bodoli!”
5. Ydy, mae'n meddwl y bydd e'n llwyddo bob amser.Dydy e'n gwybod dim am dy safonau di;ac mae'n wfftio pawb sy'n ei wrthwynebu.
6. Mae'n meddwl wrtho'i hun, “Dw i'n hollol saff.Mae popeth yn iawn! Fydda i byth mewn trafferthion.”
7. Mae e mor gegog! – yn llawn melltith a thwyll a gormes;a'i dafod yn gwneud dim ond drwg ac achosi trafferthion!
8. Mae'n cuddio wrth y pentrefi, yn barod i ymosod;mae'n neidio o'i guddfan a lladd y dieuog –unrhyw un sy'n ddigon anffodus.
9. Mae'n disgwyl yn ei guddfan fel llew yn ei ffau,yn barod i ddal y truan a'i gam-drin;ac mae'n ei ddal yn ei rwyd.
10. Mae'n plygu i lawr, yn swatio,ac mae rhywun anlwcus yn syrthio i'w grafangau.
11. Mae'n dweud wrtho'i hun, “Dydy Duw ddim yn poeni!Dydy e'n cymryd dim sylw.Dydy e byth yn edrych!”