Hen Destament

Testament Newydd

Salm 10:1-17 beibl.net 2015 (BNET)

1. O ARGLWYDD, pam wyt ti'n cadw draw?Pam wyt ti'n aros o'r golwg pan mae pethau'n anodd arna i?

2. Mae'r rhai drwg mor hy! Maen nhw'n hela'r tlawd –gwna iddyn nhw gael eu dal gan eu dyfais eu hunain!

3. Mae'r un drwg yn brolio ei fod yn cael ei ffordd ei hun;a'r lleidr yn melltithio a dirmygu'r ARGLWYDD.

4. Mae'r un drwg mor falch, yn swancioac yn dweud wrth ddirmygu'r ARGLWYDD:“Dydy e ddim yn galw neb i gyfri;Dydy Duw ddim yn bodoli!”

5. Ydy, mae'n meddwl y bydd e'n llwyddo bob amser.Dydy e'n gwybod dim am dy safonau di;ac mae'n wfftio pawb sy'n ei wrthwynebu.

6. Mae'n meddwl wrtho'i hun, “Dw i'n hollol saff.Mae popeth yn iawn! Fydda i byth mewn trafferthion.”

7. Mae e mor gegog! – yn llawn melltith a thwyll a gormes;a'i dafod yn gwneud dim ond drwg ac achosi trafferthion!

8. Mae'n cuddio wrth y pentrefi, yn barod i ymosod;mae'n neidio o'i guddfan a lladd y dieuog –unrhyw un sy'n ddigon anffodus.

9. Mae'n disgwyl yn ei guddfan fel llew yn ei ffau,yn barod i ddal y truan a'i gam-drin;ac mae'n ei ddal yn ei rwyd.

10. Mae'n plygu i lawr, yn swatio,ac mae rhywun anlwcus yn syrthio i'w grafangau.

11. Mae'n dweud wrtho'i hun, “Dydy Duw ddim yn poeni!Dydy e'n cymryd dim sylw.Dydy e byth yn edrych!”

12. Cod, O ARGLWYDD!Cod dy law i'w daro, O Dduw!Paid anghofio'r rhai sy'n cael eu gorthrymu.

13. Pam ddylai dyn drwg gael dilorni Duwa meddwl dy fod ti'n galw neb i gyfri?

14. Ti'n gweld y cwbl –ti'n sylwi ar y poen a'r dioddefaint.A byddi'n talu'n ôl!Mae'r un oedd yn anlwcus yn dy drystio di,am mai ti sy'n helpu plant amddifad.

15. Torra rym y dyn drwg!Galw fe i gyfrif am y drygioniroedd e'n meddwl na fyddet ti'n ei weld.

16. Mae'r ARGLWYDD yn frenin am bytha bydd y cenhedloedd yn diflannu o'r tir!

17. Ti'n gwrando ar lais y rhai sy'n cael eu gorthrymuyn crefu arnat, O ARGLWYDD.Byddan nhw'n teimlo'n saffam dy fod ti'n gwrando arnyn nhw.

Darllenwch bennod gyflawn Salm 10