Penodau

  1. 1
  2. 2
  3. 3
  4. 4

Hen Destament

Testament Newydd

Ruth 3 beibl.net 2015 (BNET)

Cynllun Naomi

1. Dyma Naomi yn dweud wrth Ruth, “Fy merch i, dylwn i fod wedi chwilio am gartref i ti, er dy les di.

2. “Nawr, mae Boas, y dyn buost ti'n gweithio gyda'i ferched e, yn berthynas agos i ni. Gwranda, heno mae'n mynd i nithio haidd ar y llawr dyrnu.

3. Dos i ymolchi, rhoi colur, a gwisgo dy ddillad gorau, ac wedyn mynd i lawr i'r llawr dyrnu. Ond paid gadael iddo wybod dy fod ti yno nes bydd e wedi gorffen bwyta ac yfed.

4. Yna, pan fydd e'n setlo i lawr i gysgu, sylwa ble mae e'n gorwedd. Dos ato a choda'r dillad wrth ei goesau, a gorwedd i lawr. Bydd e'n dweud wrthot ti beth i'w wneud.”

5. Cytunodd Ruth,

6. ac aeth i lawr i'r llawr dyrnu a gwneud yn union fel roedd ei mam-yng-nghyfraith wedi dweud wrthi.

7. Ar ôl bwyta ac yfed roedd Boas yn teimlo'n fodlon braf. Aeth i gysgu wrth ymyl pentwr o ŷd. Dyma Ruth yn mynd ato yn ddistaw bach a chodi'r dillad wrth ei goesau a gorwedd i lawr.

8. Ganol nos dyma Boas yn aflonyddu ac yn troi drosodd a ffeindio merch yn gorwedd wrth ei draed.

9. “Pwy wyt ti?” gofynnodd iddi. “Ruth, dy forwyn di,” atebodd. “Wnei di ofalu amdana i? Ti ydy'r perthynas agosaf, sy'n gyfrifol am y teulu.”

10. “Bendith Duw arnat ti, merch i,” meddai Boas. “Ti'n dangos cymaint o ymroddiad. Mae beth wyt ti'n wneud nawr yn well na'r hyn wyt wedi ei wneud yn barod. Gallet ti fod wedi mynd ar ôl un o'r dynion ifanc, boed hwnnw'n dlawd neu'n gyfoethog.

11. Nawr te, merch i, paid poeni. Bydda i'n gwneud popeth rwyt ti wedi ei ofyn i mi. Mae'r dre i gyd yn gwybod dy fod ti'n ferch dda.

12. “Nawr, mae'n wir fy mod i'n berthynas agos i ti, ond mae yna un sy'n perthyn yn agosach.

13. Aros yma heno. Yn y bore, os bydd e am weithredu fel y perthynas sydd i ofalu amdanat ti, iawn. Ond os fydd e'n dewis peidio dw i'n addo'n bendant i ti y bydda i'n dy briodi di. Cysga yma tan y bore.”

14. Felly dyma Ruth yn cysgu wrth ymyl Boas tan y bore. Dyma hi'n deffro cyn iddi oleuo. Dwedodd Boas wrthi, “Does neb i gael gwybod fod merch wedi bod i'r llawr dyrnu.”

15. Yna dwedodd, “Tyrd, estyn y siôl wyt ti'n ei gwisgo. Dal hi allan.” Dyma hi'n gwneud hynny, a dyma Boas yn rhoi tua 35 cilogram o haidd iddi, ac yna ei godi ar ei hysgwydd. A dyma Ruth yn mynd adre.

16. Pan gyrhaeddodd adre dyma Naomi, ei mam-yng-nghyfraith, yn gofyn iddi, “Sut aeth hi, merch i?” Dyma Ruth yn dweud am bopeth oedd y dyn wedi ei wneud iddi.

17. Ac meddai, “Mae e wedi rhoi'r haidd yma i mi – mae tua 35 cilogram! Dwedodd wrtho i. ‘Dwyt ti ddim yn mynd yn ôl at dy fam-yng-nghyfraith yn waglaw,’”

18. Ac meddai Naomi, “Disgwyl di, merch i, i ni gael gweld sut fydd pethau yn troi allan. Fydd y dyn yma ddim yn gorffwys nes bydd e wedi setlo'r mater heddiw.”