Hen Destament

Testament Newydd

Ruth 2:11-23 beibl.net 2015 (BNET)

11. “Dw i wedi clywed am y cwbl wyt i wedi ei wneud i dy fam-yng-nghyfraith ar ôl i dy ŵr di farw,” meddai Boas. “Dw i wedi clywed sut wnest ti adael dy dad a dy fam, a'r wlad lle cest ti dy eni, a dod i fyw i ganol pobl oedd yn ddieithr i ti.

12. Boed i Dduw dy wobrwyo di am wneud hyn. Byddi'n cael dy dâl yn llawn gan yr ARGLWYDD, Duw Israel. Dan ei adain e rwyt wedi dod i gysgodi.”

13. Dwedodd Ruth, “Ti'n garedig iawn ata i, syr. Rwyt ti wedi rhoi tawelwch meddwl i mi ac wedi codi fy nghalon i, er mod i'n neb o'i gymharu â'r merched sy'n gweithio i ti.”

14. Amser bwyd, dyma Boas yn dweud wrth Ruth, “Tyrd i fwyta gyda ni! Dipia dy fara yn y saws.” Felly dyma hi'n eistedd gyda'r gweithwyr, a dyma Boas yn estyn grawn wedi ei grasu iddi. Cafodd Ruth ddigon i'w fwyta, ac roedd ganddi beth dros ben.

15. Wedi iddi godi a mynd yn ôl i gasglu grawn, dyma Boas yn gorchymyn i'w weithwyr. “Gadewch iddi gasglu rhwng yr ysgubau a peidiwch â'i dwrdio hi.

16. Dw i am i chi hyd yn oed dynnu peth allan o'r ysgubau a'i adael iddi ei gasglu. Peidiwch dweud y drefn wrthi am ei gymryd.”

17. Felly buodd Ruth wrthi'n casglu grawn nes iddi nosi.Wedi iddi ddyrnu yr hyn roedd wedi ei gasglu, roedd ganddi dros ddeg cilogram o haidd!

18. Dyma hi'n ei gario yn ôl adre, a gwelodd ei mam-yng-nghyfraith gymaint roedd hi wedi ei gasglu. A dyma Ruth yn rhoi'r bwyd oedd ganddi dros ben ers amser cinio hefyd.

19. Gofynnodd Naomi iddi, “Ble fuost ti'n gweithio ac yn casglu grawn heddiw? Bendith Duw ar bwy bynnag gymrodd sylw ohonot!” A dyma Ruth yn esbonio ble roedd hi wedi bod. “Boas ydy enw'r dyn lle roeddwn i'n gweithio,” meddai.

20. “Bendith Duw arno!” meddai Naomi, “Mae e wedi bod yn garedig aton ni sy'n fyw a'r rhai sydd wedi marw. Mae'r dyn yma yn perthyn i ni. Mae e'n un o'r rhai sy'n gyfrifol amdanon ni.”

21. Meddai Ruth y Foabes, “Dwedodd wrtho i hefyd, ‘Aros gyda fy ngweithwyr i nes byddan nhw wedi gorffen casglu'r cynhaeaf i gyd.’”

22. A dyma Naomi yn dweud wrth Ruth, “Ie, dyna'r peth gorau i ti ei wneud, fy merch i. Aros gyda'r merched sy'n gweithio iddo fe. Fel na fydd neb yn ymosod arnat ti mewn cae arall.”

23. Felly dyma Ruth yn aros gyda morynion Boas.Buodd yn casglu grawn tan ddiwedd y cynhaeaf haidd a'r cynhaeaf gwenith. Ond roedd hi'n byw gyda'i mam-yng-nghyfraith.

Darllenwch bennod gyflawn Ruth 2