Hen Destament

Testament Newydd

Ruth 1:1-17 beibl.net 2015 (BNET)

1. Yn ystod cyfnod y barnwyr buodd yna newyn yn y wlad. Felly aeth rhyw ddyn o Bethlehem yn Jwda i fyw i wlad Moab dros dro. Aeth â'i wraig a'i ddau fab gydag e.

2. Elimelech oedd enw'r dyn, a Naomi oedd ei wraig. Machlon a Cilion oedd enwau'r ddau fab. Pobl o Effratha oedden nhw (sef yr hen enw ar Bethlehem yn Jwda). Dyma nhw'n mynd i wlad Moab ac yn aros yno.

3. Ond wedyn dyma Elimelech, gŵr Naomi, yn marw, a'i gadael hi yn weddw gyda'i dau fab.

4. Priododd y ddau fab ferched o wlad Moab (Orpa oedd enw un, a Ruth oedd y llall). Ar ôl iddyn nhw fod yno am tua deg mlynedd,

5. dyma Machlon a Cilion yn marw hefyd. Cafodd Naomi ei gadael heb feibion a heb ŵr.

6. Tra roedd hi'n dal yn byw yn Moab, clywodd Naomi fod Duw wedi rhoi bwyd i'w bobl. Felly, dyma hi a'i dwy ferch-yng-nghyfraith yn cychwyn yn ôl o wlad Moab.

7. Dyma nhw'n gadael ble roedden nhw wedi bod yn byw, a cychwyn ar y daith yn ôl i wlad Jwda.

8. Yna dyma Naomi yn dweud wrth ei merched-yng-nghyfraith, “Ewch chi yn ôl adre, y ddwy ohonoch chi. Ewch yn ôl at eich mamau. Bydded Duw mor garedig atoch chi ac y buoch chi ata i, ac at fy meibion sydd wedi marw.

9. A bydded i Dduw roi cartref i chi a threfnu i chi'ch dwy briodi eto.”Wedyn dyma Naomi yn cusanu'r ddwy a ffarwelio â nhw, a dyma nhw'n dechrau crïo'n uchel.

10. “Na!” medden nhw, “gad i ni fynd yn ôl gyda ti at dy bobl di.”

11. Ond meddai Naomi, “Ewch adre, merched i. Pam fyddech chi eisiau dod gyda fi? Alla i byth gael meibion eto i chi eu priodi nhw.

12. Ewch adre, merched i! Ewch! Dw i'n rhy hen i briodi eto. A hyd yn oed petai gobaith, a finnau'n cael gŵr heno ac yn cael plant,

13. fyddech chi'n disgwyl iddyn nhw dyfu? Fyddech chi'n aros amdanyn nhw heb briodi? Na, merched i. Dw i ddim eisiau i chi ddiodde fel fi. Yr ARGLWYDD sydd wedi gwneud i mi ddiodde.”

14. Dyma nhw'n dechrau crïo'n uchel eto. Wedyn dyma Orpa'n rhoi cusan i ffarwelio â Naomi. Ond roedd Ruth yn ei chofleidio'n dynn ac yn gwrthod gollwng gafael.

15. Dwedodd Naomi wrthi, “Edrych, mae dy chwaer-yng-nghyfraith wedi mynd yn ôl at ei phobl a'i duw ei hun. Dos dithau ar ei hôl hi.”

16. Ond atebodd Ruth, “Paid pwyso arna i i dy adael di a troi cefn arnat ti. Dw i am fynd i ble bynnag fyddi di yn mynd. A dw i'n mynd i aros ble bynnag fyddi di'n aros. Bydd dy bobl di yn bobl i mi, a dy Dduw di yn Dduw i mi.

17. Ble bynnag fyddi di yn marw, dyna ble fyddai i yn marw ac yn cael fy nghladdu. Boed i Dduw ddial arna i os bydd unrhyw beth ond marwolaeth yn ein gwahanu ni'n dwy.”

Darllenwch bennod gyflawn Ruth 1