Hen Destament

Testament Newydd

Numeri 7:84-88 beibl.net 2015 (BNET)

Felly cyfanswm yr offrymau gyflwynodd arweinwyr Israel pan gafodd yr allor ei heneinio oedd:– un deg dau plât arian yn pwyso cilogram a hanner yr un– un deg dwy powlen arian yn pwyso tri chwarter cilogram yr un(Felly roedd y llestri arian i gyd yn pwyso dau ddeg saith cilogram, yn ôl pwysau safonol y cysegr)– un deg dwy badell aur yn llawn o arogldarth, yn pwyso can gram yr un(Felly roedd y padellau aur i gyd yn pwyso un cilogram a dau gan gram yn ôl pwysau safonol y cysegr)– un deg dau tarw ifanc, un deg dau hwrdd ac un deg dau oen gwryw blwydd oed yn offrymau i'w llosgi'n llwyr – pob un gyda'i offrwm o rawn– un deg dau bwch gafr yn offrymau puro– dau ddeg pedwar tarw ifanc, chwe deg hwrdd, chwe deg bwch gafr a chwe deg oen gwryw blwydd oed yn offrymau i gydnabod daioni'r ARGLWYDD.Dyna'r rhoddion gafodd eu cyflwyno pan oedd yr allor yn cael ei chysegru a'i heneinio.

Darllenwch bennod gyflawn Numeri 7

Gweld Numeri 7:84-88 mewn cyd-destun