Hen Destament

Testament Newydd

Numeri 4:33-49 beibl.net 2015 (BNET)

33. Dyna waith y Merariaid – eu cyfrifoldeb nhw dros Babell Presenoldeb Duw. Maen nhw hefyd yn atebol i Ithamar fab Aaron, yr offeiriad.”

34-48. Felly dyma Moses ac Aaron a'r arweinwyr eraill yn cynnal cyfrifiad o deuluoedd y tri clan oedd yn perthyn i lwyth Lefi – y Cohathiaid, y Gershoniaid a'r Merariaid. Niferoedd y dynion rhwng tri deg a phum deg oed oedd yn cael gweithio yn y Tabernacl. A dyma'r canlyniad:Clan Nifer Cohathiaid 2,750 Gershoniaid 2,630 Merariaid 3,200 Cyfanswm: 8,580 Roedd Moses ac Aaron wedi eu cyfrif nhw i gyd, fel roedd yr ARGLWYDD wedi dweud.

49. Roedd gan bob un ohonyn nhw waith penodol neu gyfrifoldeb i gario rhywbeth arbennig. Yr ARGLWYDD oedd wedi dweud hyn i gyd wrth Moses. Dyna hanes y cyfrif, fel roedd yr ARGLWYDD wedi dweud wrth Moses.

Darllenwch bennod gyflawn Numeri 4