Hen Destament

Testament Newydd

Numeri 4:14-33 beibl.net 2015 (BNET)

14. Yna gosod ei hoffer i gyd arni – y padellau, ffyrc, rhawiau, powlenni taenellu, a holl offer arall yr allor. Wedyn rhoi gorchudd o grwyn môr-fuchod dros y cwbl, a rhoi'r polion i'w chario yn eu lle.

15. “Pan fydd Aaron a'i feibion wedi gorffen gorchuddio'r cysegr a'r holl ddodrefn ac offer sydd ynddo, a'r gwersyll yn barod i symud, bydd y Cohathiaid yn dod i gario'r cwbl. Ond rhaid iddyn nhw beidio cyffwrdd unrhyw beth cysegredig, neu byddan nhw'n marw. Dyma gyfrifoldeb y Cohathiaid gyda'r Tabernacl.

16. “Mae Eleasar fab Aaron, yr offeiriad, i fod yn gyfrifol am yr olew ar gyfer y golau, yr arogldarth persawrus, y grawn ar gyfer yr offrwm dyddiol, a'r olew eneinio. Ond mae hefyd yn gyfrifol am y Tabernacl i gyd, a phopeth sydd ynddo, a'r cysegr a'i holl ddodrefn.”

17. Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses ac Aaron:

18. “Peidiwch gadael i dylwythau'r Cohathiaid ddiflannu o blith y Lefiaid.

19. Er mwyn gwneud yn siŵr eu bod nhw ddim yn marw wrth fynd yn agos at y pethau cysegredig, rhaid gwneud hyn: Rhaid i Aaron a'i feibion ddweud wrth bob dyn yn union beth ydy ei gyfrifoldeb e.

20. A rhaid i'r Cohathiaid beidio edrych ar y pethau cysegredig yn cael eu gorchuddio, neu byddan nhw'n marw.”

21. Yna dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses:

22. “Dw i eisiau i ti gynnal cyfrifiad o deuluoedd y Gershoniaid hefyd

23. – pob un sy'n cael gweithio yn y Tabernacl (sef y dynion rhwng tri deg a phum deg oed).

24. Dyma gyfrifoldebau'r Gershoniaid, a'r gwaith maen nhw i'w gyflawni:

25. Nhw sydd i gario llenni'r Tabernacl a Pabell Presenoldeb Duw a'i gorchudd, y gorchudd o grwyn môr-fuchod, y sgrîn ar draws y fynedfa i'r iard,

26. y llenni o gwmpas yr iard, y sgrîn sydd o flaen y fynedfa i'r iard sydd o gwmpas y tabernacl a'r allor, a'r rhaffau, a phopeth arall sy'n gysylltiedig â'r rhain. Dyna'r gwaith maen nhw i'w wneud.

27. Aaron a'i feibion sydd i oruchwylio'r gwaith mae'r Gershoniaid yn ei wneud – beth sydd i'w gario, ac unrhyw beth arall sydd i'w wneud. Nhw sydd i ddweud yn union beth ydy cyfrifoldeb pawb.

28. Dyna gyfrifoldeb y Gershoniaid yn y Tabernacl. Byddan nhw'n atebol i Ithamar fab Aaron, yr offeiriad.

29. “Ac wedyn y Merariaid. Dw i eisiau i ti gynnal cyfrifiad o'u teuluoedd nhw

30. – pob un sy'n cael gweithio yn y Tabernacl (sef y dynion rhwng tri deg a phum deg oed).

31. Dyma beth maen nhw i fod i'w gario: fframiau'r Tabernacl, y croesfarrau, y polion a'r socedi.

32. Hefyd, polion yr iard i gyd, gyda'i socedi, pegiau a rhaffau, a phopeth arall i'w wneud â'r rhain. Rhaid dweud wrth bob dyn beth yn union mae e'n gyfrifol am ei gario.

33. Dyna waith y Merariaid – eu cyfrifoldeb nhw dros Babell Presenoldeb Duw. Maen nhw hefyd yn atebol i Ithamar fab Aaron, yr offeiriad.”

Darllenwch bennod gyflawn Numeri 4