Hen Destament

Testament Newydd

Numeri 4:12-29 beibl.net 2015 (BNET)

12. “Wedyn rhaid iddyn nhw gymryd gweddill yr offer sy'n cael ei ddefnyddio yn y cysegr, a'u rhoi nhw mewn lliain glas. Rhoi gorchudd o grwyn môr-fuchod amdanyn nhw wedyn, a'i gosod ar bolyn i'w cario.

13. “Yna nesaf, rhaid iddyn nhw daflu'r lludw oedd ar yr allor, cyn rhoi lliain porffor drosti.

14. Yna gosod ei hoffer i gyd arni – y padellau, ffyrc, rhawiau, powlenni taenellu, a holl offer arall yr allor. Wedyn rhoi gorchudd o grwyn môr-fuchod dros y cwbl, a rhoi'r polion i'w chario yn eu lle.

15. “Pan fydd Aaron a'i feibion wedi gorffen gorchuddio'r cysegr a'r holl ddodrefn ac offer sydd ynddo, a'r gwersyll yn barod i symud, bydd y Cohathiaid yn dod i gario'r cwbl. Ond rhaid iddyn nhw beidio cyffwrdd unrhyw beth cysegredig, neu byddan nhw'n marw. Dyma gyfrifoldeb y Cohathiaid gyda'r Tabernacl.

16. “Mae Eleasar fab Aaron, yr offeiriad, i fod yn gyfrifol am yr olew ar gyfer y golau, yr arogldarth persawrus, y grawn ar gyfer yr offrwm dyddiol, a'r olew eneinio. Ond mae hefyd yn gyfrifol am y Tabernacl i gyd, a phopeth sydd ynddo, a'r cysegr a'i holl ddodrefn.”

17. Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses ac Aaron:

18. “Peidiwch gadael i dylwythau'r Cohathiaid ddiflannu o blith y Lefiaid.

19. Er mwyn gwneud yn siŵr eu bod nhw ddim yn marw wrth fynd yn agos at y pethau cysegredig, rhaid gwneud hyn: Rhaid i Aaron a'i feibion ddweud wrth bob dyn yn union beth ydy ei gyfrifoldeb e.

20. A rhaid i'r Cohathiaid beidio edrych ar y pethau cysegredig yn cael eu gorchuddio, neu byddan nhw'n marw.”

21. Yna dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses:

22. “Dw i eisiau i ti gynnal cyfrifiad o deuluoedd y Gershoniaid hefyd

23. – pob un sy'n cael gweithio yn y Tabernacl (sef y dynion rhwng tri deg a phum deg oed).

24. Dyma gyfrifoldebau'r Gershoniaid, a'r gwaith maen nhw i'w gyflawni:

25. Nhw sydd i gario llenni'r Tabernacl a Pabell Presenoldeb Duw a'i gorchudd, y gorchudd o grwyn môr-fuchod, y sgrîn ar draws y fynedfa i'r iard,

26. y llenni o gwmpas yr iard, y sgrîn sydd o flaen y fynedfa i'r iard sydd o gwmpas y tabernacl a'r allor, a'r rhaffau, a phopeth arall sy'n gysylltiedig â'r rhain. Dyna'r gwaith maen nhw i'w wneud.

27. Aaron a'i feibion sydd i oruchwylio'r gwaith mae'r Gershoniaid yn ei wneud – beth sydd i'w gario, ac unrhyw beth arall sydd i'w wneud. Nhw sydd i ddweud yn union beth ydy cyfrifoldeb pawb.

28. Dyna gyfrifoldeb y Gershoniaid yn y Tabernacl. Byddan nhw'n atebol i Ithamar fab Aaron, yr offeiriad.

29. “Ac wedyn y Merariaid. Dw i eisiau i ti gynnal cyfrifiad o'u teuluoedd nhw

Darllenwch bennod gyflawn Numeri 4