1. Yna dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses ac Aaron:
2. “Dw i eisiau i ti gynnal cyfrifiad o deuluoedd y Cohathiaid o lwyth Lefi
3. – pob un sy'n cael gweithio yn y Tabernacl (sef y dynion rhwng tri deg a phum deg oed).
4. Dyma gyfrifoldebau'r Cohathiaid dros bethau cysegredig y Tabernacl:
5. Pan mae'n amser i'r gwersyll symud yn ei flaen, rhaid i Aaron a'i feibion ddod i gymryd llen y sgrîn i lawr, a'i roi dros Arch y dystiolaeth.
6. Wedyn rhaid iddyn nhw roi gorchudd o grwyn môr-fuchod dros hwnnw, ac yna gosod lliain glas dros y cwbl. Gallan nhw wedyn roi'r polion i gario'r Arch yn eu lle.