Hen Destament

Testament Newydd

Numeri 4:1-15 beibl.net 2015 (BNET)

1. Yna dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses ac Aaron:

2. “Dw i eisiau i ti gynnal cyfrifiad o deuluoedd y Cohathiaid o lwyth Lefi

3. – pob un sy'n cael gweithio yn y Tabernacl (sef y dynion rhwng tri deg a phum deg oed).

4. Dyma gyfrifoldebau'r Cohathiaid dros bethau cysegredig y Tabernacl:

5. Pan mae'n amser i'r gwersyll symud yn ei flaen, rhaid i Aaron a'i feibion ddod i gymryd llen y sgrîn i lawr, a'i roi dros Arch y dystiolaeth.

6. Wedyn rhaid iddyn nhw roi gorchudd o grwyn môr-fuchod dros hwnnw, ac yna gosod lliain glas dros y cwbl. Gallan nhw wedyn roi'r polion i gario'r Arch yn eu lle.

7. “Wedyn maen nhw i roi lliain glas dros fwrdd yr ARGLWYDD, ac yna gosod arno y platiau a'r dysglau, y powlenni a'r jygiau sy'n cael eu defnyddio i dywallt yr offrwm o ddiod. Ac mae'r bara i aros arno bob amser.

8. Wedyn maen nhw i orchuddio'r cwbl gyda lliain coch, a rhoi gorchudd o grwyn môr-fuchod dros hwnnw wedyn. Yna gallan nhw roi'r polion i gario'r bwrdd yn eu lle.

9. “Nesaf, maen nhw i roi lliain glas dros y menora sy'n rhoi golau, a'i lampau, gefeiliau, padellau, a jariau o olew sy'n mynd gyda hi.

10. Yna rhaid iddyn nhw roi'r cwbl mewn gorchudd o grwyn môr-fuchod, a'i gosod ar bolyn i'w gario.

11. “Wedyn maen nhw i roi lliain glas dros yr allor aur, ac yna rhoi gorchudd o grwyn môr-fuchod dros hwnnw. Gallan nhw wedyn roi'r polion i gario'r allor yn eu lle.

12. “Wedyn rhaid iddyn nhw gymryd gweddill yr offer sy'n cael ei ddefnyddio yn y cysegr, a'u rhoi nhw mewn lliain glas. Rhoi gorchudd o grwyn môr-fuchod amdanyn nhw wedyn, a'i gosod ar bolyn i'w cario.

13. “Yna nesaf, rhaid iddyn nhw daflu'r lludw oedd ar yr allor, cyn rhoi lliain porffor drosti.

14. Yna gosod ei hoffer i gyd arni – y padellau, ffyrc, rhawiau, powlenni taenellu, a holl offer arall yr allor. Wedyn rhoi gorchudd o grwyn môr-fuchod dros y cwbl, a rhoi'r polion i'w chario yn eu lle.

15. “Pan fydd Aaron a'i feibion wedi gorffen gorchuddio'r cysegr a'r holl ddodrefn ac offer sydd ynddo, a'r gwersyll yn barod i symud, bydd y Cohathiaid yn dod i gario'r cwbl. Ond rhaid iddyn nhw beidio cyffwrdd unrhyw beth cysegredig, neu byddan nhw'n marw. Dyma gyfrifoldeb y Cohathiaid gyda'r Tabernacl.

Darllenwch bennod gyflawn Numeri 4