Hen Destament

Testament Newydd

Numeri 32:3-4-15 beibl.net 2015 (BNET)

3-4. “Mae gynnon ni lot fawr o wartheg, ac mae'r tir wnaeth yr ARGLWYDD ei roi yn nwylo pobl Israel yn ddelfrydol i gadw gwartheg – ardaloedd Ataroth, Dibon, Iaser, Nimra, Cheshbon, Eleale, Sebam, Nebo a Beon.

5. Os ydyn ni wedi'ch plesio chi, plîs rhowch y tir yma i ni i'w etifeddu. Peidiwch mynd â ni ar draws yr Afon Iorddonen.”

6. A dyma Moses yn ateb pobl llwythau Gad a Reuben, “Ydy'n deg fod rhaid i bawb arall fynd i ryfel, tra dych chi'n aros yma?

7. Ydych chi'n trïo stopio gweddill pobl Israel rhag croesi drosodd i'r tir mae'r ARGLWYDD wedi ei roi iddyn nhw?

8. Dyma'n union beth wnaeth eich tadau chi yn Cadesh-barnea pan anfonais nhw i archwilio'r wlad.

9. Ar ôl mynd draw i ddyffryn Eshcol i weld y tir dyma nhw'n annog pobl Israel i beidio mynd mewn i'r wlad roedd yr ARGLWYDD yn ei roi iddyn nhw.

10. Roedd yr ARGLWYDD yn wirioneddol flin gyda nhw, ac meddai,

11. ‘Am eu bod nhw wedi bod yn anufudd i mi, fydd neb dros ugain oed, gafodd eu hachub o'r Aifft, yn cael gweld y tir wnes ei addo i Abraham, Isaac a Jacob!

12. Neb ond y ddau fuodd yn gwbl ffyddlon i mi – Caleb fab Jeffwnne y Cenesiad, a Josua fab Nwn.’

13. Roedd yr ARGLWYDD wedi gwylltio'n lân gyda nhw, a gwnaeth iddyn nhw grwydro yn yr anialwch am bedwar deg o flynyddoedd – nes roedd y genhedlaeth wnaeth y drwg wedi mynd.

14. A dyma chi nawr – criw arall o bechaduriaid – yn gwneud yn union yr un peth! Dych chi'n gwneud yr ARGLWYDD yn fwy dig byth gyda'i bobl Israel!

15. Os gwnewch chi droi cefn arno, bydd e'n gadael pobl Israel yn yr anialwch eto. Byddan nhw'n cael eu dinistrio, ac arnoch chi fydd y bai!”

Darllenwch bennod gyflawn Numeri 32