30. Ond os byddan nhw'n gwrthod croesi drosodd i ymladd gyda chi, rhaid iddyn nhw dderbyn tir yn Canaan, fel pawb arall.”
31. A dyma bobl Gad a Reuben yn dweud eto, “Byddwn ni'n gwneud fel mae'r ARGLWYDD wedi dweud.
32. Byddwn ni'n croesi drosodd i wlad Canaan yn barod i ymladd dros yr ARGLWYDD, a byddwn ni'n cael y tir sydd yr ochr yma i'r Iorddonen.”
33. Felly dyma Moses yn rhoi'r tir yma i lwythau Gad a Reuben, a hanner llwyth Manasse fab Joseff: tiriogaeth Sihon, brenin yr Amoriaid, a tiriogaeth Og, brenin Bashan. Cawson nhw'r tir i gyd gyda'r trefi a'r tiroedd o'u cwmpas.
34. Dyma lwyth Gad yn ailadeiladu Dibon, Ataroth, Aroer,
35. Atroth-shoffan, Iaser, Iogbeha,
36. Beth-nimra a Beth-haran yn drefi caerog amddiffynnol, gyda corlannau i'w hanifeiliaid.
37. Dyma lwyth Reuben yn ailadeiladu Cheshbon, Eleale, Ciriathaim,
38. Nebo, Baal-meon a Sibma, a rhoi enwau newydd i bob un.
39. A dyma feibion Machir fab Manasse yn mynd i dref Gilead, a'i chymryd oddi ar yr Amoriaid oedd yn byw yno.
40. A dyma Moses yn rhoi Gilead i ddisgynyddion Machir fab Manasse, a dyma nhw'n symud i fyw yno.
41. Wedyn dyma ddisgynyddion Jair fab Manasse yn dal nifer o'r pentrefi bach o gwmpas Gilead, a'i galw nhw yn Hafoth-jair (sef ‛Pentrefi Jair‛).
42. A dyma Nobach yn dal tref Cenath a'r pentrefi o'i chwmpas, a rhoi ei enw ei hun, Nobach, i'r ardal.