17. Ond byddwn ni bob amser yn barod i fod ar flaen y gâd yn arwain pobl Israel i ryfel, nes byddan nhw wedi setlo yn eu gwlad. Bydd ein plant a'n teuluoedd yn aros yn y trefi fyddwn ni wedi eu hadeiladu, fel bod nhw'n saff rhag y bobl sy'n byw o'u cwmpas nhw.
18. Wnawn ni ddim mynd adre nes bydd pawb yn Israel wedi cael y tir sydd i fod iddyn nhw.
19. A fyddwn ni ddim yn disgwyl etifeddu unrhyw dir yr ochr draw i Afon Iorddonen, am ein bod ni wedi cael y tir yma, sydd i'r dwyrain o'r afon.”
20. Dyma Moses yn ateb, “Os gwnewch chi hyn, a paratoi eich hunain i fynd i ryfel o flaen yr ARGLWYDD;
21. os bydd eich milwyr yn croesi'r Iorddonen ac yn aros nes bydd yr ARGLWYDD wedi gyrru ei elynion i gyd allan,
22. a'r ARGLWYDD wedi concro'r wlad, cewch ddod yn ôl yma. Byddwch wedi cyflawni eich dyletswydd i'r ARGLWYDD ac i Israel. A bydd y tir yma yn perthyn i chi yng ngolwg Duw.
23. Ond os na wnewch chi gadw'ch gair, byddwch wedi pechu yn erbyn yr ARGLWYDD. Byddwch chi'n talu am eich pechod yn y diwedd.
24. Felly ewch ati i adeiladu trefi i'ch plant a chorlannau i'ch anifeiliaid, ond yna gwnewch beth dych chi wedi addo'i wneud.”
25. A dyma bobl llwythau Gad a Reuben yn ateb, “Bydd dy weision yn gwneud yn union fel mae ein meistr yn dweud.
26. Bydd ein gwragedd a'n plant, ein defaid a'n hanifeiliaid i gyd yn aros yma yn Gilead,
27. ond byddwn ni'r dynion i gyd yn croesi'r afon i ymladd dros yr ARGLWYDD, fel y dwedaist ti.”
28. Felly dyma Moses yn rhoi gorchmynion am hyn i Eleasar yr offeiriad, Josua fab Nwn, ac i arweinwyr eraill llwythau Israel.
29. “Os bydd y dynion o lwythau Gad a Reuben yn croesi'r Iorddonen gyda chi i ymladd ym mrwydrau'r ARGLWYDD, pan fyddwch chi wedi concro'r wlad rhaid i chi roi tir Gilead iddyn nhw.
30. Ond os byddan nhw'n gwrthod croesi drosodd i ymladd gyda chi, rhaid iddyn nhw dderbyn tir yn Canaan, fel pawb arall.”
31. A dyma bobl Gad a Reuben yn dweud eto, “Byddwn ni'n gwneud fel mae'r ARGLWYDD wedi dweud.
32. Byddwn ni'n croesi drosodd i wlad Canaan yn barod i ymladd dros yr ARGLWYDD, a byddwn ni'n cael y tir sydd yr ochr yma i'r Iorddonen.”