Hen Destament

Testament Newydd

Numeri 32:14-27 beibl.net 2015 (BNET)

14. A dyma chi nawr – criw arall o bechaduriaid – yn gwneud yn union yr un peth! Dych chi'n gwneud yr ARGLWYDD yn fwy dig byth gyda'i bobl Israel!

15. Os gwnewch chi droi cefn arno, bydd e'n gadael pobl Israel yn yr anialwch eto. Byddan nhw'n cael eu dinistrio, ac arnoch chi fydd y bai!”

16. Dyma nhw'n dod at Moses a dweud wrtho, “Gad i ni adeiladu corlannau i'n hanifeiliaid, a trefi i'n plant fyw ynddyn nhw.

17. Ond byddwn ni bob amser yn barod i fod ar flaen y gâd yn arwain pobl Israel i ryfel, nes byddan nhw wedi setlo yn eu gwlad. Bydd ein plant a'n teuluoedd yn aros yn y trefi fyddwn ni wedi eu hadeiladu, fel bod nhw'n saff rhag y bobl sy'n byw o'u cwmpas nhw.

18. Wnawn ni ddim mynd adre nes bydd pawb yn Israel wedi cael y tir sydd i fod iddyn nhw.

19. A fyddwn ni ddim yn disgwyl etifeddu unrhyw dir yr ochr draw i Afon Iorddonen, am ein bod ni wedi cael y tir yma, sydd i'r dwyrain o'r afon.”

20. Dyma Moses yn ateb, “Os gwnewch chi hyn, a paratoi eich hunain i fynd i ryfel o flaen yr ARGLWYDD;

21. os bydd eich milwyr yn croesi'r Iorddonen ac yn aros nes bydd yr ARGLWYDD wedi gyrru ei elynion i gyd allan,

22. a'r ARGLWYDD wedi concro'r wlad, cewch ddod yn ôl yma. Byddwch wedi cyflawni eich dyletswydd i'r ARGLWYDD ac i Israel. A bydd y tir yma yn perthyn i chi yng ngolwg Duw.

23. Ond os na wnewch chi gadw'ch gair, byddwch wedi pechu yn erbyn yr ARGLWYDD. Byddwch chi'n talu am eich pechod yn y diwedd.

24. Felly ewch ati i adeiladu trefi i'ch plant a chorlannau i'ch anifeiliaid, ond yna gwnewch beth dych chi wedi addo'i wneud.”

25. A dyma bobl llwythau Gad a Reuben yn ateb, “Bydd dy weision yn gwneud yn union fel mae ein meistr yn dweud.

26. Bydd ein gwragedd a'n plant, ein defaid a'n hanifeiliaid i gyd yn aros yma yn Gilead,

27. ond byddwn ni'r dynion i gyd yn croesi'r afon i ymladd dros yr ARGLWYDD, fel y dwedaist ti.”

Darllenwch bennod gyflawn Numeri 32