Hen Destament

Testament Newydd

Numeri 32:11-22 beibl.net 2015 (BNET)

11. ‘Am eu bod nhw wedi bod yn anufudd i mi, fydd neb dros ugain oed, gafodd eu hachub o'r Aifft, yn cael gweld y tir wnes ei addo i Abraham, Isaac a Jacob!

12. Neb ond y ddau fuodd yn gwbl ffyddlon i mi – Caleb fab Jeffwnne y Cenesiad, a Josua fab Nwn.’

13. Roedd yr ARGLWYDD wedi gwylltio'n lân gyda nhw, a gwnaeth iddyn nhw grwydro yn yr anialwch am bedwar deg o flynyddoedd – nes roedd y genhedlaeth wnaeth y drwg wedi mynd.

14. A dyma chi nawr – criw arall o bechaduriaid – yn gwneud yn union yr un peth! Dych chi'n gwneud yr ARGLWYDD yn fwy dig byth gyda'i bobl Israel!

15. Os gwnewch chi droi cefn arno, bydd e'n gadael pobl Israel yn yr anialwch eto. Byddan nhw'n cael eu dinistrio, ac arnoch chi fydd y bai!”

16. Dyma nhw'n dod at Moses a dweud wrtho, “Gad i ni adeiladu corlannau i'n hanifeiliaid, a trefi i'n plant fyw ynddyn nhw.

17. Ond byddwn ni bob amser yn barod i fod ar flaen y gâd yn arwain pobl Israel i ryfel, nes byddan nhw wedi setlo yn eu gwlad. Bydd ein plant a'n teuluoedd yn aros yn y trefi fyddwn ni wedi eu hadeiladu, fel bod nhw'n saff rhag y bobl sy'n byw o'u cwmpas nhw.

18. Wnawn ni ddim mynd adre nes bydd pawb yn Israel wedi cael y tir sydd i fod iddyn nhw.

19. A fyddwn ni ddim yn disgwyl etifeddu unrhyw dir yr ochr draw i Afon Iorddonen, am ein bod ni wedi cael y tir yma, sydd i'r dwyrain o'r afon.”

20. Dyma Moses yn ateb, “Os gwnewch chi hyn, a paratoi eich hunain i fynd i ryfel o flaen yr ARGLWYDD;

21. os bydd eich milwyr yn croesi'r Iorddonen ac yn aros nes bydd yr ARGLWYDD wedi gyrru ei elynion i gyd allan,

22. a'r ARGLWYDD wedi concro'r wlad, cewch ddod yn ôl yma. Byddwch wedi cyflawni eich dyletswydd i'r ARGLWYDD ac i Israel. A bydd y tir yma yn perthyn i chi yng ngolwg Duw.

Darllenwch bennod gyflawn Numeri 32