Hen Destament

Testament Newydd

Numeri 3:33-45 beibl.net 2015 (BNET)

33. Disgynyddion Merari oedd claniau Machli a Mwshi –

34. sef 6,200 o ddynion a bechgyn oedd dros fis oed.

35. Arweinydd y Merariaid oedd Swriel fab Afichaïl. Roedden nhw i wersylla i'r gogledd o'r Tabernacl.

36. Cyfrifoldeb y Merariaid oedd fframiau'r Tabernacl, y croesfarrau, y polion, y socedi, y llestri i gyd, a popeth arall oedd ag unrhyw beth i'w wneud â'r rhain.

37. Hefyd, polion yr iard i gyd, gyda'i socedi, pegiau a rhaffau.

38. Yr unig rai oedd i wersylla ar yr ochr ddwyreiniol, o flaen y Tabernacl, oedd Moses ac Aaron a'i feibion. Nhw oedd yn gyfrifol am y cysegr ar ran pobl Israel. Os oedd unrhyw un arall yn mynd yn rhy agos at y cysegr, y gosb oedd marwolaeth.

39. Nifer y Lefiaid i gyd, gafodd eu cyfri gan Moses ac Aaron, oedd 22,000 o ddynion a bechgyn dros un mis oed.

40. Yna dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses: “Dw i eisiau i ti gyfri pob un o'r Israeliaid sy'n fab hynaf, o un mis oed i fyny. A cofrestru enw pob un.

41. Mae'r Lefiaid i gael eu rhoi i mi yn lle meibion hynaf yr Israeliaid – cofia mai fi ydy'r ARGLWYDD. A fi piau anifeiliaid y Lefiaid hefyd, yn lle pob anifail cyntaf i gael ei eni i anifeiliaid pobl Israel.”

42. Felly dyma Moses yn cyfrif pob un o feibion hynaf yr Israeliaid, fel roedd yr ARGLWYDD wedi dweud wrtho.

43. Y nifer gafodd eu cyfrif a'u cofrestru oedd 22,273.

44. Yna dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses:

45. “Cymer y Lefiaid yn lle meibion hynaf pobl Israel, ac anifeiliaid y Lefiaid yn lle eu hanifeiliaid nhw. Fi fydd piau'r Lefiaid. Fi ydy'r ARGLWYDD.

Darllenwch bennod gyflawn Numeri 3