Hen Destament

Testament Newydd

Numeri 29:5-16 beibl.net 2015 (BNET)

5. Hefyd, rhaid cyflwyno un bwch gafr yn offrwm puro, i wneud pethau'n iawn rhyngoch chi â Duw.

6. Mae'r rhain yn ychwanegol at yr offrwm sy'n cael ei losgi bob mis, a'r offrwm dyddiol gyda'r offrymau o rawn a diod sy'n mynd gyda nhw. Mae'r offrymau yma sydd wedi eu trefnu i gyd yn cael eu llosgi i'r ARGLWYDD, ac yn arogli'n hyfryd iddo.

7. “‘Ar y degfed diwrnod o'r seithfed mis rhaid i chi ddod at eich gilydd i addoli. Rhaid i chi beidio bwyta, i ddangos eich bod chi'n sori am eich pechod. A peidiwch gweithio fel arfer ar y diwrnod yma.

8. Rhaid i chi gyflwyno'r canlynol i'w losgi i'r ARGLWYDD, yn offrwm fydd yn arogli'n hyfryd iddo: dau darw ifanc, un hwrdd, a saith oen blwydd oed sydd â dim byd o'i le arnyn nhw.

9. Rhaid cyflwyno offrymau o rawn gyda nhw hefyd, sef y blawd gwenith gorau wedi ei gymysgu gydag olew olewydd: tri cilogram am bob tarw, dau gilogram am bob hwrdd,

10. ac un cilogram ar gyfer pob oen.

11. Hefyd, rhaid cyflwyno un bwch gafr yn offrwm puro. Mae hwn yn ychwanegol at yr offrwm puro i wneud pethau'n iawn gyda Duw a'r offrwm dyddiol sy'n cael ei losgi gyda'r offrymau o rawn a diod sy'n mynd gyda hwnnw.

12. “‘Ar y pymthegfed dydd o'r seithfed mis dych chi i ddod at eich gilydd i addoli. Peidiwch gweithio fel arfer ar y diwrnod yma. Rhaid i chi gynnal Gŵyl i'r ARGLWYDD am saith diwrnod.

13. “‘Rhaid i chi gyflwyno'r canlynol i'w losgi i'r ARGLWYDD, yn offrwm sy'n arogli'n hyfryd iddo: un deg tri tarw ifanc, dau hwrdd, ac un deg pedwar oen blwydd oed. Gwnewch yn siŵr fod dim byd o'i le arnyn nhw.

14. Rhaid cyflwyno offrymau o rawn gyda nhw hefyd, sef y blawd gwenith gorau wedi ei gymysgu gydag olew olewydd: tri cilogram am bob tarw, dau gilogram am bob hwrdd,

15. ac un cilogram ar gyfer pob oen.

16. Hefyd, rhaid cyflwyno un bwch gafr yn offrwm puro. Mae hwn yn ychwanegol at yr offrwm rheolaidd sy'n cael ei losgi a'r offrymau o rawn a diod sy'n mynd gyda hwnnw.

Darllenwch bennod gyflawn Numeri 29