Hen Destament

Testament Newydd

Numeri 29:36-40 beibl.net 2015 (BNET)

36. Rhaid i chi gyflwyno'r canlynol i'w losgi i'r ARGLWYDD, yn offrwm sy'n arogli'n hyfryd iddo: un tarw ifanc, un hwrdd, a saith oen blwydd oed. Gwnewch yn siŵr fod dim byd o'i le arnyn nhw.

37. A'r offrymau o rawn a diod sydd i fod i fynd gyda pob un ohonyn nhw – y tarw, yr hwrdd a'r ŵyn.

38. Hefyd, rhaid cyflwyno un bwch gafr yn offrwm puro. Mae hwn yn ychwanegol at yr offrwm rheolaidd sy'n cael ei losgi a'r offrymau o rawn a diod sy'n mynd gyda hwnnw.

39. “‘Mae'r offrymau yma i gyd i'w cyflwyno i'r ARGLWYDD adeg y Gwyliau blynyddol. Mae'r rhain yn ychwanegol at yr offrymau eraill i gyd – offrymau i wneud addewid ac offrymau gwirfoddol, yr offrymau i'w llosgi'n llwyr, a'r offrymau o rawn, yr offrymau o ddiod, a'r offrymau i gydnabod daioni'r ARGLWYDD.’”

40. Dyma Moses yn dysgu hyn i gyd i bobl Israel, yn union fel roedd yr ARGLWYDD wedi dweud wrtho.

Darllenwch bennod gyflawn Numeri 29