Hen Destament

Testament Newydd

Numeri 28:14-23 beibl.net 2015 (BNET)

14. Yn offrwm o ddiod gyda nhw: dwy litr o win gyda pob tarw, litr a chwarter gyda'r hwrdd, a litr gyda pob un o'r ŵyn.“‘Dyma'r offrwm sydd i'w losgi'n rheolaidd bob mis drwy'r flwyddyn.

15. Wedyn rhaid i un bwch gafr gael ei gyflwyno i'r ARGLWYDD yn offrwm puro. Mae hwn yn ychwanegol at yr offrwm rheolaidd sy'n cael ei losgi a'r offrwm o ddiod sy'n mynd gyda hwnnw.

16. “‘Mae Pasg yr ARGLWYDD i gael ei ddathlu ar y pedwerydd ar ddeg o'r mis cyntaf.

17. Yna mae Gŵyl arall yn dechrau ar y pymthegfed o'r mis. Dim ond bara sydd heb furum ynddo sydd i gael ei fwyta.

18. Ar y diwrnod cyntaf rhaid i chi ddod at eich gilydd i addoli. Peidiwch gweithio fel arfer ar y diwrnod yma.

19. Rhaid i chi gyflwyno rhodd i'r ARGLWYDD bob dydd, sef offrwm i'w losgi'n llwyr – dau darw ifanc, un hwrdd, a saith oen blwydd oed. Gwnewch yn siŵr fod dim byd o'i le arnyn nhw.

20. Rhaid cyflwyno offrymau o rawn gyda nhw hefyd, sef y blawd gwenith gorau wedi ei gymysgu gydag olew olewydd: tri cilogram am bob tarw, dau gilogram am bob hwrdd,

21. ac un cilogram ar gyfer pob oen.

22. Hefyd, rhaid cyflwyno un bwch gafr yn offrwm puro, i wneud pethau'n iawn rhyngoch chi â Duw.

23. Mae'r rhain i gyd yn ychwanegol at yr offrwm rheolaidd sy'n cael ei losgi'n llwyr bob bore.

Darllenwch bennod gyflawn Numeri 28