Hen Destament

Testament Newydd

Numeri 25:7-18 beibl.net 2015 (BNET)

7. A dyma Phineas (mab Eleasar yr offeiriad, ac ŵyr Aaron) yn codi a gafael mewn gwaywffon,

8. a mynd ar ôl y dyn i'r babell. A dyma fe'n gwthio'r waywffon drwy'r ddau ohonyn nhw – drwy'r dyn ac i mewn i stumog y ferch. A dyma'r pla oedd yn lledu drwy ganol pobl Israel yn stopio.

9. Roedd 24,000 o bobl wedi marw o'r pla.

10. Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses:

11. “Mae Phineas, mab Eleasar ac ŵyr Aaron yr offeiriad, wedi tawelu fy nig yn erbyn Israel. Dangosodd y fath sêl drosta i, wnes i ddim bwrw ymlaen i ddinistrio pobl Israel i gyd.

12. Felly dywed wrtho fy mod yn gwneud ymrwymiad o heddwch gydag e;

13. ymrwymiad mai fe a'i ddisgynyddion fydd yn offeiriaid am byth. Am ei fod wedi dangos y fath sêl dros ei Dduw, ac wedi gwneud pethau'n iawn rhwng Duw a pobl Israel.”

14. Enw'r dyn gafodd ei ladd ganddo – y dyn gafodd ei drywanu gyda'r ferch o Midian – oedd Simri fab Salw, pennaeth teulu o lwyth Simeon.

15. Ac enw'r ferch o Midian oedd Cosbi, merch Swr, pennaeth un o lwythau Midian.

16. A dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses:

17. “Dw i am i chi drin y Midianiaid fel gelynion, a'u dinistrio nhw.

18. Maen nhw wedi dod yn elynion i chi drwy eich denu chi i addoli y Baal o Peor. A hefyd drwy beth ddigwyddodd gyda Cosbi, merch un o'i tywysogion nhw gafodd ei lladd y diwrnod roedd y pla yn lledu o achos Peor.”

Darllenwch bennod gyflawn Numeri 25