Hen Destament

Testament Newydd

Numeri 24:12-23 beibl.net 2015 (BNET)

12. A dyma Balaam yn ateb, “Ro'n i wedi dweud wrth dy swyddogion di,

13. ‘Hyd yn oed petai Balac yn rhoi ei balas i mi, ac yn ei lenwi gydag arian ac aur, allwn i ddim mynd yn groes i beth mae'r ARGLWYDD wedi ei ddweud wrtho i. Alla i ddim gwneud da na drwg ohono i fy hun, dim ond dweud beth mae'r ARGLWYDD yn ei roi i mi.’

14. “A nawr dw i'n mynd yn ôl adre at fy mhobl. Ond cyn i mi fynd, gad i mi dy rybuddio di beth mae pobl Israel yn mynd i'w wneud i dy bobl di yn y dyfodol.”

15. A dyma fe'n rhoi'r neges yma:“Dyma neges Balaam fab Beor;proffwydoliaeth y dyn sy'n gweld popeth yn glir.

16. Neges yr un sy'n clywed Duw yn siarad,yn gwybod beth mae'r Goruchaf yn ei wneud,ac yn gweld beth mae'r Duw sy'n rheoli popeth yn ei ddangos iddo.Mae'n syrthio i lesmair ac yn gweld pethau:

17. ‘Dw i'n ei weld, ond fydd hyn ddim nawr;dw i'n edrych arno, ond mae'n bell i ffwrdd.Bydd seren yn dod allan o Jacob,teyrnwialen yn codi yn Israel.Bydd yn dinistrio ffiniau pellaf Moaba'r mynyddoedd ble mae plant Seth yn byw.

18. Bydd yn concro Edom hefyd;fe fydd piau mynyddoedd Seir.Bydd Israel yn mynd yn ei blaen yn ddewr.

19. Bydd brenin yn codi yn Jacob,ac yn dinistrio pawb sydd ar ôl yn Ir.’”

20. Yna dyma Balaam yn edrych ar Amalec ac yn cyhoeddi'r neges yma:“Amalec ydy'r gryfaf o'r gwledydd i gyd,ond dinistr llwyr fydd ei dynged.”

21. Yna edrychodd ar y Ceneaid a chyhoeddi'r neges yma:“Ti'n byw mewn lle sydd mor saff;mae dy nyth yn uchel ar y graig.

22. Ond bydd Cain yn cael ei lyncu,pan fydd Asyria'n ei gymryd yn gaeth.”

23. Yna dyma Balaam yn rhoi'r neges yma:“Ond pwy fydd yn cael byw pan fydd Duw yn gwneud hyn?

Darllenwch bennod gyflawn Numeri 24