Hen Destament

Testament Newydd

Numeri 23:21-30 beibl.net 2015 (BNET)

21. Dydy e'n gweld dim drwg yn Jacob;nac yn gweld dim o'i le ar Israel.Mae'r ARGLWYDD eu Duw gyda nhw;mae e wedi ei gyhoeddi yn frenin arnyn nhw.

22. Duw sydd wedi dod â nhw allan o'r Aifft;mae e'n gryf fel ych gwyllt.

23. Does dim swyn yn gwneud drwg i Jacob,na dewiniaeth yn erbyn Israel.Rhaid dweud am Jacob ac Israel,‘Duw sydd wedi gwneud hyn!’

24. Bydd y bobl yn codi fel llewes,ac yn torsythu fel llew.Fyddan nhw ddim yn gorwedd nes bwyta'r ysglyfaeth,ac yfed gwaed y lladdfa.”

25. A dyma Balac yn dweud wrth Balaam, “Paid â'i melltithio nhw o gwbl, a paid â'i bendithio chwaith.”

26. Ond dyma Balaam yn ei ateb, “Wnes i ddim dweud fod rhaid i mi wneud beth mae'r ARGLWYDD yn ddweud?”

27. Yna dyma'r brenin Balac yn dweud wrth Balaam, “Tyrd, gad i mi fynd â ti i rywle arall. Falle y bydd Duw yn gadael i ti eu melltithio nhw o'r fan honno.”

28. A dyma Balac yn mynd â Balaam i ben Mynydd Peor, sy'n edrych dros yr anialwch.

29. A dyma Balaam yn dweud wrth Balac, “Adeilada saith allor i mi yma, a paratoi saith tarw a saith hwrdd i'w haberthu.”

30. Dyma'r brenin Balac yn gwneud hynny, ac yn aberthu tarw a hwrdd ar bob un o'r allorau.

Darllenwch bennod gyflawn Numeri 23