Hen Destament

Testament Newydd

Numeri 23:1-12 beibl.net 2015 (BNET)

1. A dyma Balaam yn dweud wrth y brenin Balac, “Adeilada saith allor yma, a paratoi saith tarw a saith hwrdd i'w haberthu.”

2. Dyma Balac yn gwneud hynny, a dyma'r ddau ohonyn nhw yn aberthu tarw a hwrdd ar bob un o'r allorau.

3. Yna dyma Balaam yn dweud wrth Balac, “Aros di yma wrth ymyl yr aberthau sy'n cael eu llosgi. Dw i'n mynd i weld os ydy'r ARGLWYDD am ymateb. Bydda i'n rhannu gyda ti beth bynnag fydd e'n ddweud wrtho i.” A dyma Balaam yn mynd i ben bryn anial.

4. A dyma Duw yn dod ato. A dyma Balaam yn dweud wrth Dduw, “Dw i wedi codi saith allor, ac wedi aberthu tarw a hwrdd ar bob un ohonyn nhw.”

5. A dyma'r ARGLWYDD yn rhoi neges i Balaam, “Dos yn ôl at Balac a rhoi'r neges yma iddo.”

6. Pan aeth Balaam yn ôl roedd y brenin ac arweinwyr Moab yn dal i sefyll yno wrth ymyl yr aberthau oedd yn cael eu llosgi.

7. A dyma'r neges roddodd Balaam iddo:“Daeth Balac â fi yma o Aram;daeth brenin Moab a fi o fynyddoedd y dwyrain:‘Tyrd i felltithio Jacob i mi,’ meddai;‘tyrd i gondemnio Israel!’

8. Ond sut alla i felltithio pan mae Duw ddim yn gwneud?Sut alla i gondemnio'r rhai dydy'r ARGLWYDD ddim am eu condemnio?

9. Dw i'n eu gweld nhw o ben y creigiau.Dw i'n eu gwylio nhw o ben y bryniau.Maen nhw'n bobl unigryw,yn wahanol i'r gwledydd eraill.

10. Mae Jacob fel llwch – pwy all eu cyfrif?Oes rhywun yn gallu cyfrif eu chwarter nhw?Dw i am farw fel un wnaeth y peth iawn.Dw i am i'r diwedd i mi fod fel eu diwedd nhw.”

11. A dyma Balac yn dweud wrth Balaam, “Beth wyt ti wedi ei wneud? Dw i wedi dod â ti yma i felltithio'r gelyn! A dyma ti'n eu bendithio nhw!”

12. A dyma Balaam yn ateb, “Rhaid i mi fod yn ofalus fy mod i ddim ond yn dweud beth mae'r ARGLWYDD wedi ei roi i mi.”

Darllenwch bennod gyflawn Numeri 23