Hen Destament

Testament Newydd

Numeri 21:6-16 beibl.net 2015 (BNET)

6. Felly dyma'r ARGLWYDD yn anfon nadroedd gwenwynig i'w canol nhw. Cafodd lot o bobl eu brathu a marw.

7. A dyma'r bobl yn dod at Moses a dweud, “Dŷn ni wedi pechu drwy ddweud pethau yn erbyn yr ARGLWYDD ac yn dy erbyn di. Plîs gweddïa y bydd yr ARGLWYDD yn cymryd y nadroedd yma i ffwrdd.”Felly dyma Moses yn gweddïo dros y bobl.

8. A dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses, “Gwna ddelw o neidr, a'i chodi ar bolyn. Wedyn, pan fydd rhywun sydd wedi ei frathu yn edrych arni, bydd yn cael byw.”

9. Felly dyma Moses yn gwneud neidr bres a'i chodi ar bolyn. Wedyn os oedd neidr yn brathu rhywun, pan fyddai'r person hwnnw'n edrych ar y neidr bres byddai'n cael byw.

10. Dyma bobl Israel yn cychwyn yn eu blaenau eto, ac yn gwersylla yn Oboth.

11. Yna gadael Oboth a gwersylla yn Ïe-hafarîm yn yr anialwch i'r dwyrain o Moab.

12. Yna mynd yn eu blaenau eto a gwersylla yn Wadi Sered.

13. Wedyn mynd yn eu blaenau a gwersylla yr ochr draw i Arnon, yn yr anialwch sy'n ymestyn o'r ardaloedd ble mae'r Amoriaid yn byw. Mae Arnon ar ffin Moab, yn y canol rhwng Moab a'r Amoriaid.

14. Mae Llyfr Rhyfeloedd yr ARGLWYDD yn cyfeirio at y lle fel yma:“Tref Waheb yn Swffa, a wadïau Arnon,

15. a llethrau'r ceunentydd sy'n ymestyn i Ar,ar y ffin gyda Moab.”

16. Teithio wedyn i Beër (sef ‛Y Ffynnon‛), lle dwedodd yr ARGLWYDD wrth Moses, “Casgla'r bobl at ei gilydd, a gwna i roi dŵr iddyn nhw.”

Darllenwch bennod gyflawn Numeri 21