Hen Destament

Testament Newydd

Numeri 21:23-35 beibl.net 2015 (BNET)

23. Ond gwrthododd Sihon adael i bobl Israel groesi ei dir. Casglodd ei fyddin at ei gilydd, ac ymosod ar Israel yn Iahats yn yr anialwch.

24. Ond Israel wnaeth ennill y frwydr, a dyma nhw'n cymryd eu tir oddi arnyn nhw, o Geunant Arnon i Ryd Jabboc, a'r holl ffordd at ffin yr Ammoniaid. Roedd y ffin honno wedi ei hamddiffyn, ac yn gwbl ddiogel.

25. Dyma Israel yn concro trefi'r Amoriaid i gyd, a setlo ynddyn nhw, gan gynnwys dinas Cheshbon ei hun a'r pentrefi o'i chwmpas.

26. Cheshbon oedd dinas Sihon brenin yr Amoriaid. Ac roedd Sihon wedi concro brenin Moab a chymryd ei dir oddi arno, yr holl ffordd at Afon Arnon.

27. Dyna pam mae'r baledwyr yn dweud,“Dewch i Cheshbon, dinas Sihon,i'w hadfer a'i hailadeiladu.

28. Roedd tân yn llosgi yn Cheshbon –fflamau o dref y Brenin Sihon.Mae wedi llosgi Ar yn Moabac arweinwyr ucheldir Arnon.

29. Mae hi ar ben arnat ti, Moab!Dych chi bobl sy'n addoli Chemosh wedi'ch difa.Mae eich meibion yn ffoaduriaid,a'ch merched wedi eu cymryd yn gaethion,gan Sihon, brenin yr Amoriaid.

30. Dŷn ni wedi eu difa nhw'n llwyro Cheshbon yr holl ffordd i Dibon.Dŷn ni wedi eu taro nhw i lawryr holl ffordd i Noffa a Medeba.”

31. Felly roedd pobl Israel yn byw yng ngwlad yr Amoriaid.

32. Dyma Moses yn anfon ysbiwyr i edrych ar dref Iaser. A dyma nhw'n dal y pentrefi yno, a gyrru allan yr Amoriaid oedd yn byw yno.

33. Wedyn dyma nhw'n troi i'r gogledd, ac yn mynd i gyfeiriad Bashan. A dyma Og brenin Bashan yn dod â'i fyddin gyfan i ymladd yn eu herbyn nhw yn Edrei.

34. Ond dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses, “Paid bod â'i ofn. Dw i'n mynd i roi Og a'i fyddin a'i dir i gyd i ti. Byddi'n gwneud yr un fath iddo fe ag a wnest ti i Sihon brenin yr Amoriaid oedd yn byw yn Cheshbon.”

35. Felly dyma Israel yn ennill y frwydr yn erbyn Og a'i feibion a'i fyddin. Cawson nhw i gyd eu lladd. A dyma Israel yn cymryd y tir.

Darllenwch bennod gyflawn Numeri 21