Dyma frenin Canaaneaidd Arad, oedd yn byw yn y Negef, yn clywed fod Israel yn dod ar y ffordd i Atharîm. Felly dyma fe'n ymosod arnyn nhw, ac yn cymryd rhai o bobl Israel yn gaeth.