Hen Destament

Testament Newydd

Numeri 19:6-18 beibl.net 2015 (BNET)

6. Yna rhaid i'r offeiriad gymryd pren cedrwydd, isop, ac edau goch a'u taflu nhw i'r tân lle mae'r heffer yn llosgi.

7. Wedyn rhaid i'r offeiriad olchi ei ddillad ac ymolchi mewn dŵr cyn dod yn ôl i mewn i'r gwersyll. Ond bydd e'n dal yn aflan am weddill y dydd.

8. A rhaid i'r dyn sy'n llosgi'r heffer olchi ei ddillad hefyd, ac ymolchi mewn dŵr. Bydd e hefyd yn aflan am weddill y dydd.

9. “‘Yna rhaid i ddyn sydd ddim yn aflan gasglu lludw yr heffer goch, a'i osod mewn lle sy'n lân yn seremonïol tu allan i'r gwersyll. Mae'r lludw i'w gadw i bobl Israel ei ddefnyddio yn seremoni dŵr y puro. Mae'r seremoni yma ar gyfer symud pechodau.

10. Wedyn rhaid i'r un wnaeth gasglu'r lludw olchi ei ddillad. Bydd e hefyd yn aflan am weddill y dydd. Dyma fydd y drefn bob amser i bobl Israel a'r mewnfudwyr sy'n byw gyda nhw.

11. “‘Bydd unrhyw un sy'n cyffwrdd corff marw yn aflan am saith diwrnod.

12. Rhaid i'r person hwnnw fynd trwy'r ddefod o buro ei hun gyda dŵr ar y trydydd diwrnod a'r seithfed diwrnod, ac wedyn bydd yn lân. Os nad ydy e'n gwneud hynny bydd yn aros yn aflan.

13. Os ydy rhywun yn cyffwrdd corff marw a ddim yn puro ei hun, mae'r person hwnnw yn llygru Tabernacl yr ARGLWYDD. Bydd yn cael ei dorri allan o Israel, am fod dŵr y puro ddim wedi cael ei daenellu arno. Bydd yn aros yn aflan.

14. “‘Dyma sydd i ddigwydd pan mae rhywun yn marw mewn pabell: Mae unrhyw un sy'n mynd i mewn i'r babell, neu'r rhai oedd yno pan fuodd y person farw, yn aflan am saith diwrnod.

15. A bydd unrhyw lestr heb gaead arno yn aflan hefyd.

16. “‘Os ydy rhywun allan yn y wlad yn cyffwrdd corff marw – corff rhywun sydd wedi ei ladd neu rywun sydd wedi marw'n naturiol – neu hyd yn oed yn cyffwrdd asgwrn dynol, neu fedd, bydd yn aflan am saith diwrnod.

17. “‘A dyma sut mae puro rhywun sy'n aflan: Rhaid cymryd peth o ludw yr heffer gafodd ei llosgi i symud pechodau, a thywallt dŵr glân croyw drostyn nhw mewn llestr.

18. Wedyn mae rhywun sydd ddim yn aflan i drochi brigau isop yn y dŵr, ac yna ei daenellu ar y babell a'r dodrefn i gyd, ac ar y bobl oedd yno ar y pryd. A'r un fath gyda rhywun sydd wedi cyffwrdd asgwrn dynol, neu gorff marw neu fedd.

Darllenwch bennod gyflawn Numeri 19