Hen Destament

Testament Newydd

Numeri 19:1-7 beibl.net 2015 (BNET)

1. Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses ac Aaron:

2. “A dyma reol arall mae'r ARGLWYDD yn gorchymyn ei chadw: ‘Dywed wrth bobl Israel am ddod â heffer goch sydd â dim byd o'i le arni – anifail heb nam corfforol ac sydd erioed wedi gweithio gyda iau.

3. Rhaid rhoi'r heffer i Eleasar yr offeiriad, a bydd yn cael ei chymryd allan o'r gwersyll a'i lladd o'i flaen e.

4. Yna mae Eleasar i gymryd peth o waed yr heffer, a'i daenellu gyda'i fys saith gwaith i gyfeiriad Pabell Presenoldeb Duw.

5. Wedyn mae'r heffer i gael ei llosgi o'i flaen – y croen, cnawd, gwaed, a'r coluddion i gyd.

6. Yna rhaid i'r offeiriad gymryd pren cedrwydd, isop, ac edau goch a'u taflu nhw i'r tân lle mae'r heffer yn llosgi.

7. Wedyn rhaid i'r offeiriad olchi ei ddillad ac ymolchi mewn dŵr cyn dod yn ôl i mewn i'r gwersyll. Ond bydd e'n dal yn aflan am weddill y dydd.

Darllenwch bennod gyflawn Numeri 19