Hen Destament

Testament Newydd

Numeri 18:8-21 beibl.net 2015 (BNET)

8. Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Aaron, “Ti a dy feibion sydd i fod yn gyfrifol bob amser am yr offrymau sy'n cael eu cyflwyno i mi. Dw i'n rhoi dy siâr di o offrymau pobl Israel i ti a dy feibion.

9. Byddi di'n cael y rhannau hynny o'r offrymau sydd ddim yn cael eu llosgi – eu hoffrymau nhw o rawn a'r offrwm puro a'r offrwm i gyfaddef bai. Mae'r rhain i gael eu rhoi o'r neilltu i ti a dy feibion.

10. Mae i'w fwyta fel offrwm cysegredig gan y dynion. Mae wedi ei gysegru i chi ei fwyta.

11. Chi sydd i gael yr offrwm sy'n cael ei chwifio hefyd. Mae hwn bob amser i gael ei fwyta gan y teulu i gyd, yn ddynion a merched. Mae pawb yn y teulu sy'n lân yn seremonïol yn cael ei fwyta.

12. A dw i'n rhoi eu rhoddion nhw o ffrwyth cyntaf y cnydau i chi hefyd – yr olew olewydd gorau, y sudd grawnwin gorau a'r gorau o'r grawn.

13. A'r ffrwythau aeddfed cyntaf maen nhw'n eu cyflwyno i'r ARGLWYDD – chi piau nhw, ac mae pawb yn y teulu sy'n lân yn seremonïol yn cael eu bwyta.

14. Chi sy'n cael popeth sydd wedi ei gadw o'r neilltu i Dduw gan bobl Israel.

15. Chi piau'r meibion hynaf a phob anifail cyntaf i gael eu geni, sef y rhai sy'n cael eu cyflwyno i'r ARGLWYDD. Ond rhaid i'r meibion hynaf a'r anifeiliaid cyntaf gael eu prynu'n ôl gynnoch chi.

16. Maen nhw i gael eu prynu pan maen nhw'n fis oed, am bum darn arian (yn ôl mesur safonol y cysegr – sef dau ddeg gera).

17. Ond dydy'r anifail cyntaf i gael ei eni i fuwch neu ddafad neu afr ddim i gael eu prynu yn ôl. Maen nhw wedi eu cysegru i gael eu haberthu. Rhaid i'w gwaed gael ei sblasio ar yr allor, a rhaid i'r brasder gael ei losgi yn offrwm – yn rhodd sy'n arogli'n hyfryd i'r ARGLWYDD.

18. Ond chi sy'n cael y cig, fel dych chi'n cael cadw brest a rhan uchaf coes ôl yr offrymau sy'n cael eu chwifio.

19. Dw i'n rhoi'r rhain i gyd i chi a'ch teulu – yr offrymau sy'n cael eu cyflwyno gan bobl Israel i'r ARGLWYDD. Chi fydd piau'r rhain bob amser. Mae hwn yn ymrwymiad dw i, yr ARGLWYDD, yn ei wneud i chi a'ch disgynyddion. Fydd hyn byth yn newid.”

20. Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Aaron, “Fyddwch chi'r offeiriaid ddim yn cael tir i chi'ch hunain yn y wlad. Fi ydy'ch siâr chi.

21. A siâr y Lefiaid fydd y deg y cant fydd pobl Israel yn ei dalu – dyma'r tâl fyddan nhw'n ei gael am eu gwaith yn y Tabernacl.

Darllenwch bennod gyflawn Numeri 18