Hen Destament

Testament Newydd

Numeri 18:4-15 beibl.net 2015 (BNET)

4. Maen nhw i'ch helpu chi i ofalu am Babell Presenoldeb Duw, ac i wneud eich gwaith yn y Tabernacl. Ond does neb o'r tu allan i gael dod yn agos.

5. Chi fydd yn gyfrifol am y cysegr a'r allor, fel bod yr ARGLWYDD ddim yn gwylltio hefo pobl Israel eto.

6. Fi sydd wedi dewis dy berthnasau di o lwyth Lefi i wneud y gwaith yma. Mae'n nhw'n anrheg i ti gan yr ARGLWYDD, i weithio yn y Tabernacl.

7. Ond ti a dy feibion sy'n gyfrifol am wneud gwaith yr offeiriaid – popeth sy'n ymwneud â'r allor a'r tu mewn i'r llen. Mae'r fraint o gael gwneud gwaith offeiriad yn anrheg gen i i chi. Os bydd unrhyw un arall yn dod yn rhy agos, y gosb fydd marwolaeth.”

8. Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Aaron, “Ti a dy feibion sydd i fod yn gyfrifol bob amser am yr offrymau sy'n cael eu cyflwyno i mi. Dw i'n rhoi dy siâr di o offrymau pobl Israel i ti a dy feibion.

9. Byddi di'n cael y rhannau hynny o'r offrymau sydd ddim yn cael eu llosgi – eu hoffrymau nhw o rawn a'r offrwm puro a'r offrwm i gyfaddef bai. Mae'r rhain i gael eu rhoi o'r neilltu i ti a dy feibion.

10. Mae i'w fwyta fel offrwm cysegredig gan y dynion. Mae wedi ei gysegru i chi ei fwyta.

11. Chi sydd i gael yr offrwm sy'n cael ei chwifio hefyd. Mae hwn bob amser i gael ei fwyta gan y teulu i gyd, yn ddynion a merched. Mae pawb yn y teulu sy'n lân yn seremonïol yn cael ei fwyta.

12. A dw i'n rhoi eu rhoddion nhw o ffrwyth cyntaf y cnydau i chi hefyd – yr olew olewydd gorau, y sudd grawnwin gorau a'r gorau o'r grawn.

13. A'r ffrwythau aeddfed cyntaf maen nhw'n eu cyflwyno i'r ARGLWYDD – chi piau nhw, ac mae pawb yn y teulu sy'n lân yn seremonïol yn cael eu bwyta.

14. Chi sy'n cael popeth sydd wedi ei gadw o'r neilltu i Dduw gan bobl Israel.

15. Chi piau'r meibion hynaf a phob anifail cyntaf i gael eu geni, sef y rhai sy'n cael eu cyflwyno i'r ARGLWYDD. Ond rhaid i'r meibion hynaf a'r anifeiliaid cyntaf gael eu prynu'n ôl gynnoch chi.

Darllenwch bennod gyflawn Numeri 18