Hen Destament

Testament Newydd

Numeri 16:39-50 beibl.net 2015 (BNET)

39. Felly dyma Eleasar yr offeiriad yn casglu'r padellau oedd wedi eu defnyddio gan y rhai gafodd eu lladd yn y tân, a dyma nhw'n cael eu curo gyda morthwylion i wneud gorchudd i'r allor.

40. Roedd y gorchudd yn arwydd i rybuddio pobl Israel na ddylai neb oedd ddim yn perthyn i deulu Aaron losgi arogldarth i'r ARGLWYDD. Neu byddai'r un peth yn digwydd iddyn nhw ac a ddigwyddodd i Cora a'i ddilynwyr. Felly cafodd beth ddwedodd yr ARGLWYDD wrth Moses ei wneud.

41. Ond y diwrnod wedyn dyma bobl Israel yn dechrau cwyno a troi yn erbyn Moses ac Aaron, “Chi sydd wedi lladd pobl yr ARGLWYDD!”

42. Wrth iddyn nhw gasglu at ei gilydd yn erbyn Moses ac Aaron, dyma nhw'n troi i gyfeiriad Pabell Presenoldeb Duw, ac roedd y cwmwl wedi dod drosti ac ysblander yr ARGLWYDD yn disgleirio.

43. A dyma Moses ac Aaron yn sefyll o flaen Pabell Presenoldeb Duw.

44. Yna dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrth Moses:

45. “Symudwch i ffwrdd oddi wrth y bobl yma, i mi eu dinistrio nhw yn y fan a'r lle!” Ond dyma Moses ac Aaron yn mynd ar eu hwynebau ar lawr.

46. A dyma Moses yn dweud wrth Aaron, “Cymer badell dân a rhoi arogldarth ynddi, a tân o'r allor arni. Dos â hi i ganol y bobl, i wneud pethau'n iawn rhyngddyn nhw â Duw. Mae'r ARGLWYDD wedi gwylltio gyda nhw, ac mae'r pla wedi dechrau!”

47. Felly dyma Aaron yn gwneud beth ddwedodd Moses, a rhedeg i ganol y bobl. Roedd y pla wedi dechrau eu taro nhw, ond dyma Aaron yn llosgi arogldarth i wneud pethau'n iawn rhwng y bobl â Duw.

48. Dyma fe'n sefyll rhwng y bobl oedd wedi marw a'r rhai oedd yn dal yn fyw, a dyma'r pla yn stopio.

49. Roedd 14,700 o bobl wedi marw, heb gyfri'r rhai oedd wedi marw yn yr helynt gyda Cora.

50. Yna, am fod y pla wedi stopio, dyma Aaron yn mynd yn ôl at Moses at y fynedfa i Babell Presenoldeb Duw.

Darllenwch bennod gyflawn Numeri 16